Cherub

Published Chwefror 13, 2014 by gwanas

Diolch, diolch, diolch i Dafydd, mab fy nghyfnither, Sian, am fy nghyflwyno i lyfrau Cherub. image

Dwi wedi gwirioni. Llyfrau ar gyfer plant (young adult ta) ydyn nhw i fod, ond maen nhw’n cydio ynon ni oedolion hefyd. Dwi’m wedi mopio efo llyfr mor sydyn ers oesoedd – dim ond 2 dudalen gymrodd hi!
image
Yr ail lyfr yn y gyfres ydi hwn, mi ddylwn i fod wedi darllen y cynta yn gynta,image ond Class A oedd yn y llyfrgell, a doedd dim rhaid bod wedi darllen y cynta i ddeall yr ail.

Dyma sut i fachu darllenwyr!

Ar gyfer pa oed? Blwyddyn 7 i fyny yn sicr, ond os ydi plentyn yn ddarllenwr da ac yn ddigon aeddfed – a’r rhieni’n hapus, mi fydd y llyfrau yma’n apelio at Bl 6 hefyd. Maen nhw wedi eu hanelu at fechgyn, ond mi fydd merched yn eu hoffi hefyd, yn enwedig os wnaethon nhw fwynhau The Hunger Games.
image

Mae na ambell reg yma, tipyn o snogio, ac yn y llyfr penodol hwn, mae na blant yn cymryd cyffuriau a meddwi hefyd – O, a lladd… ond mae’r neges foesol yno’n gryf. Wir rwan! Mae ei roi o fel yna yn gwneud i’r cynnwys swnio’n llawer gwaeth nag ydi o. Ond mi fyswn i’n hapus iawn i fy nith 12 oed ddarllen hwn. Os dach chi’n riant nerfus, cymrwch gip arno eich hun yn gynta.

Nefi, mae’r awdur, Robert Muchamore wedi bod yn glyfar. Dwi’n gegrwth! Ond roedd o’n arfer bod yn ddic preifat doedd…

A sbiwch faint mwy o hanesion mae o wedi eu sgwennu!
image

Mae gwir angen cyfresi fel The Hunger Games a Cherub yn Gymraeg, tybed oes na gyn dditectif neu filwr neu rywun allai lenwi’r bwlch? – ac mae’n rhaid i ni beidio a bod ofn delio efo pynciau tabŵ. Hefyd, mae awduron Cymraeg yn tueddu i or-sgwennu…gormod o ddisgrifio neu fwydro a dim digon yn “digwydd”. Y plant sy’n deud, iawn!

A dwi’n gwybod bod Anni Llyn imageyn mynd i fod isio fy lladd i rwan, achos mi fydd llyfr sbeis ganddi hi yn y siopau cyn bo hir! No pressure, Anni… Edrych mlaen i’w ddarllen! Ond mae rhywbeth yn deud wrtha i mai llawn hiwmor fydd llyfr Anni “Stwnsh”…

O, ac ydi Cherub yn well na the Hunger Games? Na, ddim cweit, ond fy marn i ydi hynny. Be ydi’ch barn chi?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: