Llyfrau gwych i’w darllen yn uchel

Published Chwefror 11, 2014 by gwanas

Dwi’n edrych mlaen yn arw at fy ymweliad nesa â Ysgol Bro Cinmeirch, yr ysgol lle dwi’n Gyfaill Darllen. Fi ydi’r unig Gyfaill Darllen sy’n siarad Cymraeg o hyd – hyd y gwn i! Brysiwch, ysgolion ac awduron Cymraeg eraill – lle dach chi? Mae hwn yn gynllun hyfryd.
Sbiwch ar wefan patronofreading a sbiwch ar y llun yma o’r tro cynta es i i’r ysgol:

image

Dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer dechrau Mawrth yn barod, ac wedi dewis hwn image
fel un o’r llyfrau fydda i’n eu darllen a’u trafod efo Blwyddyn 3 a 4. Yr awdures Haf Llewelyn roddodd y syniad i mi ( dyma hi)Unknown-5
a rhai o’i llyfrau plant hi:images-1images

O, a sbiwch be ddois i o hyd iddo fo ar y we – llun ohoni hi a fi!images-2
Chwiliwch yn ofalus – mi rydan ni yna, wir yr.

Beth bynnag, mwy am lyfrau Haf ryw dro eto; ‘Y Dywysoges Fach datws’ sy’n cael sylw tro ma, llyfr sy’n chwalu stereoteips. Un o hoff lyfrau Haf – a finnau rwan!
Mae’n dechrau fel hyn:image
Ond nid tywysoges fach ffrili, binc, gwynfanllyd mo Rhiannon. Pan fydd draig yn cipio’r Tywysog Rheinallt a malu’r castell a llosgi dillad prydferth, drudfawr Rhiannon, mae ei gwir gymeriad yn dod allan! Mae’n gwisgo sach datws ( dim dewis – dim dillad eraill ar ôl) ac yn mynd i geisio achub Rheinallt. Ond dwi’m yn mynd i ddeud mwy. Darllenwch o drosoch chi eich hun. Ond nid plant Bro Cynmeirch! Mi wna i ei ddarllen o i chi cyn bo hir, iawn? Wel, Blwyddyn 3 a 4. Ac efallai pawb arall hefyd. Gawn ni weld.

Stori gan Robert Munsch ydi hi, wedi ei chyfaddasu gan y diweddar Iwan Llwyd. Dwi’n siwr bod Iwan wir wedi mwynhau addasu’r llyfrau yma. Efallai y byddwch chi’n gyfarwydd â hon, un arall gan yr un awdur:image
Mae honna’n wych hefyd tydi? Hynod, hynod ddigri.

Maen nhw i gyd yn rai gwych i’w darllen yn uchel i blant iau, ond yn addas i blant Blwyddyn 3/4 ac i fyny eu darllen drostyn nhw eu hunain hefyd.
Rhowch wybod os oes gynnoch chi ffefrynnau ar gyfer eu darllen yn uchel.

Mae’r ddau lyfr yma yn rai da hefyd:image
image

Oes, digwydd bod, mae gen i stori yn y ddau – ond nifer o awduron eraill hefyd, o bob rhan o Gymru. Dwi’n bwriadu darllen stori gafodd ei hysbrydoli gan fy nith, Meg sy’n 12 erbyn hynIMG_2581
yn Ysgol Bro Cynmeirch hefyd. Camp i chi weithio allan pa un, ond mae ganddi wallt hir, eitha gwyllt…
Byddaf, mi fydda i’n cael llawer o syniadau am straeon drwy fy nheulu.

Cofiwch, rhannwch eich syniadau am lyfrau da i’w darllen yn uchel; mi fyswn i, a phawb arall sy’n dilyn y blog yma yn hynod ddiolchgar. Rhai gwreiddiol os yn bosib wrth gwrs, ond mae’r Dywysoges fach datws yn un mor dda, allwn i ddim peidio a rhoi sylw iddo fo.

Mae angen gwneud rhestr o lyfrau sy’n chwalu stereoteipio hefyd yn does? Dyma un!

Unknown

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: