Manon wedi ei gwneud hi eto

Published Chwefror 3, 2014 by gwanas

Unknown-3

Do, mae hi wedi cyhoeddi nofel ARALL! Un fer, cofiwch, ar gyfer darllenwyr 15+ oed. Ac os na wnaiff hon hoelio sylw eich Blwyddyn 10/11 set 2/3/4/5, dw’n i’m be wnaiff. Mi fydd set 1 yn ei hoffi hefyd, bet i chi.

‘Al’ ydi’r teitl. Digon syml a hawdd ei gofio, a Manon Steffan Ros sgwennodd o, un o’r awduron prysura yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dwi’m yn gwybod o ble mae’r holl syniadau yn dod, ond maen nhw’n llifo, ac anaml mae hi’n gwneud cam gwag efo’r un ohonyn nhw.

Yn ôl gwefan Y Lolfa, “Mae’r nofel yn ymdrin â thema ysgytwol o orfod dygymod â ffrind yn lladd ei gariad. Mae Cai’n darganfod bod Al wedi lladd Meg ar ôl noson feddw a chawn ddarganfod mwy am hanes Al trwy lygaid ei ffrind.”

Ia, Al ydi’r “dyn drwg” ond stori trwy lygaid Cai ydi hi. Cai ydi’r un mae’r darllenydd yn cydymdeimlo ag o, ond eto, wrth i ni ddeall mwy am Al, yr hogyn oedd yn byw mewn ty ‘anferthol, ac yn berffaith’, efo llond ei lofft o ‘lyfrau, DVDs, gêmau, clamp o deledu a sbîcyrs’,(mor wahanol i gartref Cai) rydan ni’n dechrau cydymdeimlo rhywfaint efo fo hefyd. Wel, mi ro’n i. Bydd raid i chi ddarllen y llyfr i weld pam.

Mae’r arddull yn syml a di-ffrils ac yn taro fel gordd. Dyma i chi flas o tua’r dechrau:image

Llyfr hawdd iawn ei ddarllen, jest y peth i’r hogia (a genod) sydd ddim yn hoffi darllen nofelau, a dim ond 72 tudalen ydi hi. Ond mi wnawn nhw fwynhau pob tudalen.

Mae’n nofel am fod yn fêts, am fagwraeth, am gariad, am sawl peth. Digon o bethau i gnoi cil drostyn nhw.

Mi wnes i deimlo am eiliad bod y diweddglo braidd yn rhy sydyn. Ond dim ond oherwydd mod i isio mwy.

Tase hon yn dewach nofel, mi fyddai’n berffaith ar gyfer setiau is y cwrs TGAU Cymraeg. Mae’n galetach a thipyn mwy tywyll na Llinyn Trôns Unknown-3
– ond plis peidiwch a thynnu honno oddi ar y rhestr! Ddim am sbel o leia.

O, a dyma sylw ar gyfer pob golygydd – a phob athro hefyd o ran hynny. Ges i ebost yn deud hyn heddiw:

Mae e’n grêt. Darllen yn rhwydd, rhwydd. Methu cael digon!

Cyfeirio at benodau cynta nofel (oedolion) dwi wedi bod yn stryffaglu a brwydro efo hi ers tua 7 mlynedd mae’r geiriau hyn. Alla i’m deud wrthach chi cymaint o ryddhad oedd darllen hynna, a dwi ar dân isio mynd yn ôl i frwydro mwy efo hi rwan tydw? Cofiwch, bosib mai gwybod hynny roedd awdur yr ebost, ond dio’m bwys gen i! Mae canmoliaeth yn mynd yn bell.

photo

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: