Dewi, Dwpsi a’r Dreigiau gan Dewi Pws a Rhiannon Roberts

Published Ionawr 22, 2014 by gwanas

Image Newydd ddarllen hwn tra’n bwyta llond powlen o lob sgows. Dwi’n gwybod bod rhai’n credu na ddylid bwyta a darllen yr un pryd, ond dwi’n anghytuno’n llwyr. Mi ges i fy magu yn bwyta cornfflêcs a darllen y bocs yr un pryd! Ac ydw, dwi’n gwybod mai Creision Yd ydi’r enw Cymraeg, ond cornfflêcs oedden nhw yn y 60au a’r 70au, mae arna i ofn – ond efo tô bach ynde.

Yn ôl at y llyfr. Mae angen mwy fel hyn! Straeon sydd wedi eu gosod yn gryf yng Nghymru, yn dangos pobl a phethau o Gymru, fel bod plant Cymru yn gweld eu BOD nhw’n bwysig!
Yn bwysicach, llyfr ddylai apelio at fechgyn sy’n hoffi rygbi, ac sydd, efallai, yn meddwl nad yw ‘dynion go iawn’ yn darllen. O, ydyn maen nhw!
Unknown-2
Dyma i chi’r dudalen gyntaf yn y llyfr:
image
Bachgen a’i dad ar y soffa, yn barod i wylio Cymru yn chwarae rygbi – ac mae’r tad yn edrych yn union fel Dewi Pws!
Unknown-3
Mae hyn oherwydd bod yr arlunydd, Eric Heyman, yn ffrind i Dewi a’i wraig, Rhiannon. Tydi o’n gwybod yn union sut i gyfleu natur Dewi mewn llun?
Dwi’n ffan mawr o luniau Eric; fo wnaeth y lluniau ar gyfer llyfrau gwych Catherine Aran am Idris y Cawr, Ganthrig Bwt y Wrach ac ati.

Unknown-4Unknown-5

Mae’r rhain yn lyfrau gwych ar gyfer yr oedran yma hefyd, boed i’w darllen yn uchel i blant iau, neu i’w darllen yn annibynnol. Pa oedran? Wel, 4-10, ac oedolion sy’n hoffi llyfrau efo straeon a lluniau da!

Ond yn ôl at stori Dewi.

Mae rhywun wedi dwyn y dreigiau cochion oddi ar holl faneri Cymru, ac mae Dewi (y bachgen) a’i gyfaill, draig werdd o’r enw Dwpsi yn mynd ati i geisio eu hachub. Maen nhw’n cyfarfod pob math o gymeriadau eraill ar eu ffordd o amgylch y byd – ac mi ddylai’r llyfr hwn wella eich daearyddiaeth hefyd!

Stori hyfryd, ac er ei bod yn eitha deheuol, mae’n gwbl ddealladwy i Gogs hefyd ( Gog ydi gwraig Dewi dach chi’n gweld, dwi’n siwr ei bod hi wedi mynnu!) Gwnewch be wnes i, a dychmygu mai llais Dewi Pws sydd gan Dwpsi, y ddraig, ac mi fydd pethau fel
‘Bant â ti byti bach’ yn dod â gwên i’r wyneb!

Y llyfr perffaith i Dad a’i blant ei ddarllen ar y soffa cyn gêmau rygbi Cymru. Rhowch gynnig arni!

O, a dyma adolygiadau eraill oddi ar wefan Gwales – gan blant – Ieeee! Mae angen i fwy o blant rannu eu sylwadau fel hyn yndoes?

image

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: