Cyfrinach Ifan Hopcyn gan Eiry MIles

Published Ionawr 14, 2014 by gwanas

Image

Dyma’r llyfr gafodd ei argymell i mi gan un o ferched cynradd Sgwad Sgwennu Môn (Sgwad Sgwennu newydd sbon gyda llaw – a chriw da, talentog). Felly mi ges i gopi o’r llyfrgell yn syth.

*Gyda llaw, oeddech chi’n gwybod nad oes raid mynd i’r llyfrgell i chwilio am lyfr? Mi fedrwch achebu llyfrau’n hawdd dros y we drwy Talnet  ( http://capitadiscovery.co.uk/gwynedd/) ar gyfer Gwynedd, Môn a Chonwy, ac mae’n siwr bod gwefannau tebyg gan y siroedd eraill. Mi fyddwch angen y rhif llyfrgell sydd ar eich cerdyn, a rhif pin 4 llythyren ( holwch eich llyfrgellydd lleol) wedyn mi fedrwch weld be sydd ar gael a threfnu bod copi yn disgwyl amdanoch chi yn eich cangen leol. Hawdd! Os fedra i ei wneud o, mi fedar unrhyw un…

Beth bynnag, rhaid i mi ddeud, mi wnes i wir fwynhau hwn. Stori dda, efo cymeriadau difyr. Mae Ifan wedi byw dan ddaear efo’i rieni er pan oedd o’n fachgen bach.

Pam? Am fod Prif Weinidog Cymru wedi bod yn poeni am ddyfodol y wlad oherwydd bod y gaeafau wedi mynd mor ofnadwy, felly roedd o wedi trefnu bod pobl yn creu gwlad newydd o dan y ddaear: y Tanfyd, fel rhywle i bobl Cymru symud iddo pan fyddai pethau’n wirioneddol ddrwg ar y ddaear. Ond am y tro, roedd y lle’n gorfod aros yn gyfrinach.

Ar ddechrau’r nofel, mae Ifan, gan ei fod yn 11 oed bellach, wedi cael mynd i fyny i’r Ddaear er mwyn cael mynd i ysgol efo plant eraill. A dyna ni, dwi ddim am ddatgelu mwy o’r plot! Bydd raid i chi ei ddarllen drosoch chi eich hun.

Ond mi ddylai apelio at fechgyn a merched tua 8-12 oed. Mae’n hawdd iawn ei ddarllen, ac er ei fod yn iaith y de, dydi o ddim yn rhy anodd i gogs ei ddilyn. Mi wnes i anghofio sylwi ar bob nawr a moyn yn fuan iawn, am fod y stori a’r sgrifennu mor dda.image

Mae yma fwlio a dynion drwg, tipyn o gwffio, cwningod ( rhai yn fwy cas na’i gilydd…) a digon o gyfle i chi ddychmygu sut beth fyddai byw dan ddaear, a be fydd yn digwydd os fydd y tywydd/hinsawdd wir yn mynd yn rhy ddrwg i ni fedru byw fel rydan ni wedi arfer byw.

Un arall o lyfrau Cyfres Strach, llyfr arall sy’n haeddu mwy o sylw, ac enghraifft o pam y dylid sicrhau digon o lyfrau Cymraeg a chymreig gan awduron o Gymru. Dwi wedi sbio ar y we a gweld bod yr awdur, Eiry Miles, yn gwneud tipyn o addasu neu gyfieithu llyfrau o’r Saesneg i’r Gymraeg. Does ganddi fawr o ddewis os ydi hi eisiau talu biliau! Ond tase hi’n cael gwell tâl am sgwennu llyfrau gwreiddiol, dwi’n siwr y byddai’n well ganddi hi ( a nifer o awduron plant eraill) sgwennu’r rheiny.

Ydi, mae’n fwy o waith, ond yn llawer mwy o hwyl!

Cofiwch roi gwybod i mi be rydach chi’n ei feddwl o’r llyfr yma. Mi wnaeth y diweddglo ddisgyn fymryn bach yn fflat i mi, ond dwi’m yn siwr be fyswn i wedi’i wneud yn wahanol chwaith. Ydach chi’n hapus efo’r diweddglo? Ac os nad ydach chi, be fysech chi wedi hoffi ei weld yn digwydd ar y diwedd?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: