Poeni am y pinc?

Published Ionawr 10, 2014 by gwanas

Sylw difyr gan awdur arall heddiw: Sian Northey ofynnodd i mi pam mod i wedi dewis cefndir pinc i’r blog yma.Image Wel a bod yn onest, wnes i’m sylwi ar y pinc!

Hoffi’r piws ar y top ( ocê ta, pinc tywyll) a’r lluniau du ar y gwaelod o’n i, lluniau eitha sbwci, addas ar gyfer blog am lyfrau plant, yn fy marn i. Ond mae gan Sian bwynt yndoes?

Poeni roedd hi y byddai’r lliw yn cadw’r hogia draw. O, na! Dwi’m isio i hynna ddigwydd! Ond erbyn gweld, merched sydd wedi ymateb efo sylwadau hyd yma, dim un bachgen/dyn. image

Wel? Ydi Sian yn iawn? Ydi’r pinc yma’n mynd i gadw bechgyn draw o’r blog yma? Holwch eich brodyr a’ch ffrindiau a’ch tadau a’ch cariadon!

Ac os ydach chi’n wryw sy’n darllen hwn, plis rhowch wybod. A fyddai rhywbeth tywyll neu las yn well?imageimage

Mi wnai ei newid yn syth. Ond tydi o’n bechod ein bod ni’n genedl sy’n cael ei hollti fel hyn gan liwiau? Fyddai hyn byth wedi codi yn Norwy!

Advertisements

2 comments on “Poeni am y pinc?

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: