Annog awduron a helpu’r byd llyfrau Cymraeg

Published Ionawr 8, 2014 by gwanas

Mae’r byd llyfrau Cymraeg angen eich help chi!
Oes, mae ‘na gryn dipyn o lyfrau ar gael bellach, ond y broblem fawr ydi cael sylw iddyn nhw.

Mae’n torri nghalon i bod llyfrau da yn mynd ar goll, felly gai eich annog chi os gwelwch chi’n dda i roi ambell seren neu frawddeg o adolygiad (does dim rhaid sgwennu traethawd!) ar wefannau llyfrau?

Y llyfr fydda i’n rhoi sylw iddo tro nesa ydi hwn, Cyfrinach Ifan Hopcyn gan Eiry Miles:image

Mi wnes i glywed amdano gan ferch ysgol gynradd mewn sgwad sgwennu (methu cofio dy enw rwan, sori!) – roedd hi wrth ei bodd efo fo beth bynnag. A dyma’r wybodaeth sydd ar wefan gwales.com sydd yn Gymraeg a Saesneg.
Oes, mae na adolygiad gan ddarllenydd ‘proffesiynol’ yma, ond sbiwch ar y botwm ‘Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer.’ Braf fyddai gweld plant/athrawon/rhieni – ond plant yn fwy na neb – yn sgwennu pwt am y llyfrau sy’n eu plesio.

Mae’n help i ddarllenwyr eraill ddod o hyd i lyfr da, ond hefyd yn help i’r wasg ei werthu a phenderfynu be sy’n llwyddo a be sydd ei angen.
Ond yn fwy na dim, mae’n help i’r awdur! Mae canmoliaeth yn gallu rhoi hyder ac ysbrydoli rhywun i sgwennu mwy.

Dyma i chi dudalen am fy nofel oedolion ‘Hi yw fy Ffrind’ ar wefan goodreads:
image
Digon o sêr yn fanna i ysbrydoli awdur!

Ond dydi’r ymateb i nofel oedolion arall, Gwrach y Gwyllt ddim cweit mor gyson:
image
O diar. Ond dwi wedi sylwi bod gynnoch chi rai adolygwyr yn rhoi un seren i bob blwmin llyfr! Hmff. Darllenwyr hynod ffysi neu awduron chwerw sydd isio rhoi pin ym malwn (efo tô bach) awduron eraill? Ond fi sy’n chwilio am esgus wrth gwrs. Weithiau, mae’n rhaid derbyn ei bod hi’n amhosib plesio pawb.

Dim llawer o sylwadau ar y tudalennau goodreads yna, sylwch, ond mae beirniadaeth yn gallu bod yn help, o ran dysgu ar gyfer y nofel nesa.

Mae modd rhoi sylw i lyfrau Cymraeg ar Amazon hefyd. Dyma’r ymateb i Llinyn Trôns ( nofel ar gyfer disgyblion 13+):
image

Hapus iawn efo hynna, er bod y ddau gynta’n cyfeirio at wasanaeth Amazon yn hytrach na chynnwys y llyfr…

Ond fel soniais i, mae’n anodd plesio pawb, a doedd yr ymateb i ‘Y Gwledydd Bychain’, llyfr ffeithiol ar gyfer oedolion yn y gyfres Stori Sydyn ddim cweit cystal:
image

Charming, ynde! Oes, mae angen croen eliffant i fod yn awdur. Ond mae hyd yn oed sylw negyddol yn sylw, ac nid llyfr ar gyfer plant 12 oed oedd hwnna, felly nyyy, Chand, pwy bynnag wyt ti!

Cofiwch hefyd: Mi fydd yn Ddiwrnod y Llyfr cyn bo hir – dydd Iau, Mawrth 6ed. A dyna gyfle gwych i roi sylw i lyfrau, felly os am syniadau, dilynwch @DYLLcymWBDwales ar Twitter neu sbio ar dudalen Facebook: https;//www.facebook.com/DiwrnodYLlyfrWorldBookDayWales

Advertisements

One comment on “Annog awduron a helpu’r byd llyfrau Cymraeg

  • Diolch am godi’r pwynt yma Bethan – mae mor wir. Dw i wedi derbyn adolygiadau ar wefannau cyn heddiw ond gan oedolion ac er bod derbyn ymateb yn braf a bod rhywun yn gwerthfawrogi amser yr adolygydd, rhyw deimlo nad atyn nhw roedd y llyfr wedi ei anelu. Byddai derbyn sylwadau gan y gynulleidfa darged (boed gadarnhaol neu negyddol) yn hwb ac yn rhywbeth i gnoi cil arno ar gyfer y nofel nesaf.

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: