Llun o’r gorffennol

Published Rhagfyr 17, 2013 by gwanas

Methu peidio a chynnwys y llun yma allan o Brownie Tales – un o’r lluniau oedd yn y fersiwn oedd gen i – fersiwn 1968 mae’n debyg, a fersiwn 1973 ydi’r un ges i gan Olwen – clawr gwahanol ond yr un lluniau tu mewn – ond dim sôn pwy wnaeth y lluniau. Anheg iawn â’r arlunydd yn fy marn i.
Dwi’n cofio y byddai Llinos, fy chwarae a finnau wrth ein bodd efo’r lluniau yma. Ac os cofia i’n iawn, tua 6-8 oed ro’n i’n mwynhau hwn fwya, felly tua 4-6 oedd Llinos.
Dwi wedi bod yn pori drwyddo, a wir rwan, dydi o’m wedi dyddio’n ofnadwy ( er fod y darn am roi chwip din yn teimlo’n anghyfforddus rwan!); mae Hop, Skip a Jump, y Brownies yn dal yn ddigri ac yn ddrwg, mae’r ffordd maen nhw’n trio odli yn Ngwlad y Bobl Glyfar, lle mae’n rhaid odli bob amser, yn dal i wneud i mi chwerthin. Rheol arall yn y wlad ydi na chaiff neb ‘giglan’, a dyna egluro’r llun efo’r plismon.
Pan gai gyfle, dwi’n mynd i ddarllen hwn i Cadi, sy’n 6, ac mi wnai adael i chi wybod be fydd hi’n ei feddwl.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: