Baba Hyll gan Manon Steffan Ros

Published Rhagfyr 11, 2013 by gwanas

image Newydd orffen hwn heno, ac wedi mwynhau’n arw! Nofel arall sy’n wych ar gyfer plant, ond sy’n gallu hudo oedolion hefyd.

Mae’r iaith yn syml, felly byddai darllenwyr da o Bl 6, a Bl 5 hyd yn oed, yn gallu ei mwynhau, ond gan mai un o gyfres Pen dafad, y Lolfa ydi hi, mae’n siwr mai at Bl 7, 8 a 9 mae hi wedi ei hanelu. Bachgen ydi’r prif gymeriad, felly mi fydd bechgyn, hyd yn oed y rhai sydd ddim fel arfer yn hoffi llyfrau, yn hoffi’r stori hon.

Ro’n i’n hoffi Huw, y prif gymeriad yn syth, ac mi fyddwch chithau hefyd. Mi fyddwch chi’n gallu uniaethu efo fo’n syth bin, onibai eich bod chi wedi cael eich sbwylio, fel ei ffrind o, Iolo, sydd byth yn gorfod codi bys i helpu adre. Ond dwi ddim am ddeud gormod am y stori – mae’n fy ngwylltio pan fydd pobl yn gwneud hynny! Darllenwch y llyfr yma drosoch chi eich hun. Y cwbl ddyweda i ydi mai hen wrach efo un llygad ydi Baba Hyll yn ol y son, a’i bod hi’n byw ( yn ol rhyw hen stori wirion) yn y goedwig mae Huw yn gorfod cerdded drwyddi er mwyn mynd adre o dy Iolo un noson.

Ond dydi Huw ddim yn credu hen lol felna siwr… Oce, mi wnai rannu un dudalen efo chi, i chi gael blas o’r arddull, a’r ffordd mae Manon yn gorffen pob pennod ar ‘cliffhanger’ clyfar:

imageMae Manon wedi llwyddo i sgwennu chwip o nofel dda, efo stori fydd yn gwneud i chi ysu am wybod be sy’n digwydd nesa, ond mae ynddi neges bwysig hefyd, a digon o bethau fydd yn gwneud i chi feddwl, a sbio arnoch chi’ch hun, a’ch gwneud yn berson gwell, gobeithio. Da iawn, Manon! Mi fydda i’n bendant yn argymell hon mewn ysgolion rwan. Hoffi’r clawr gan Rhys Aneurin hefyd.

Ac os ydach chi’n berson ifanc sydd wedi darllen Baba Hyll, gadewch neges fan hyn efo’ch barn. Does na’m hanner digon o sylw’n cael ei roi i nofelau plant a phobl ifanc, nagoes! Nid yn Gymraeg, o leia.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: