Y blog cyntaf!

Published Rhagfyr 10, 2013 by gwanas

ImageFi ydi honna, ond nid llyfr ar gyfer plant ydi hwnna. Ond dwi’n hoffi’r llun. Felly nyyy.

Blog newydd ydi hwn, dim byd i wneud efo garddio, ond efo llyfrau, a llyfrau plant yn fwy na dim. Ond mae’n bosib y bydd ambell lyfr ar gyfer oedolion yn stwffio i mewn weithiau – ar gyfer Mam a Dad ac unrhyw fodrybedd neu ewythrod neu neiniau neu deidiau – unrhyw un a deud y gwir, sy’n hoffi llyfrau.

Ond yn fy marn i, mae llyfrau plant yn aml cystal os nad gwell na llyfrau oedolion, ac mae’n gwneud byd o les i bobl dros 18 ddarllen ambell lyfr plant.

M i fydda i’n son am lyfrau da ar y blog yma, a chofiwch gysylltu os fydd gynnoch chi lyfr rydach chi’n meddwl y byswn i’n ei hoffi.

Mi fydda i’n hoffi llyfrau am bob dim, am wrachod a hud a lledrith, am anifeiliaid,  am ryfeloedd, llyfrau sy’n gwneud i mi chwerthin a llyfrau sy’n gwneud i mi grio.

Pa fath o lyfrau fyddwch chi’n eu hoffi a methu eu rhoi i lawr? A pha awduron? Michael Morpurgo ydi un o fy ffefrynnau i ar hyn o bryd. Private Peaceful…War horse…The Butterfly Lion, Born to run… Gwych!

Advertisements

2 comments on “Y blog cyntaf!

  • Dechreues i ddarllen Michael Morpurgo pryd o’n i’n 8 (20 mlynedd nol!!) cyn iddo sgwennu’r run o’r 4 ti ‘di rhestru. ‘Twist of Gold’ a ‘Wreck of the Zanzibar’ oedd fy hoff lyfrau. Wrth fy modd efo Frank Cottrell Boyce hefyd – strygglo i ddarllen o’n uchel i ddosbarth bl.7 oherwydd o’n i’n siwr o ddechrau crio chwerthin wrth darllen y darn am St. Gerald Magella a’r Subutteo. Nofelau i blant lot fwy hwyl na rhai i oedolion.
    Ar hyn o bryd dw i wrthi’n ail ddarllen ‘A Toy Epic’ gan Emyr Humphreys. Wrthi’n chwilio am weddill ei lyfrau – eww mae ganddo ffordd gyda geiriau!

    • Diolch am fod y cynta i ymateb i’r blog yma, Rebecca! Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i gyfarfod Michael Morpurgo ( chydig bach o ‘crush’ dwi’n cyfadde) a Frank Cottrell Boyce, sy’n ddyn wirioneddol annwyl a hyfryd. Dim ond ‘Framed’ dwi wedi ei ddarllen gynno fo hyd yma, ond yn sicr am ddarllen mwy. A dwi rioed wedi darllen ‘A Toy Epic’, ond ar ôl darllen cwpwl o adolygiadau, dyna un arall i’w roi ar y rhestr. Diolch!

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

    Twitter picture

    You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

    Google+ photo

    You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: